Hartlepool 2–2 Casnewydd
Gêm gyfartal yn unig a gafodd Casnewydd yn erbyn Hartlepool ar Barc Victoria brynhawn Sadwrn er iddynt fod ddwy gôl ar y blaen yn erbyn y tîm sydd ar waelod yr Ail Adran.
Roedd goliau Chris Zebroski ac Aaron O’Connor wedi rhoi’r Cymry ar y blaen ond tarodd y tîm cartref yn ôl gyda dwy gôl yn y deg munud olaf.
Bu rhaid aros tan wyth munud cyn yr egwyl am y gôl agoriadol, pan rwydodd Zebroski.
Roedd pethau’n edrych yn addawol iawn i’r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner wedi i O’Connor ychwanegu ail, ond newidiodd popeth gyda cherdyn coch Andy Sandell hanner ffordd trwy’r hanner.
Derbyniodd ddau gerdyn melyn mewn dau funud gan adael ei dîm i amddiffyn dwy gôl o fantais am 25 munud gyda deg dyn.
Manteisiodd Hartlepool yn llawn ar hynny yn y deg munud olaf wrth i Brad Walker a Michael Duckworth rwydo gôl yr un i gipio pwynt i’r tîm ar y gwaelod.
Mae Casnewydd ar y llaw arall yn disgyn allan o’r safleoedd ail gyfle yn dilyn y canlyniad hwn, maent bellach yn wythfed.
.
Hartlepool
Tîm: Flinders, Duckworth, Collins, Harrison, Austin, Featherstone, Walker, Woods (Schmeltz 63′), Franks, Harewood, Wyke
Goliau: Walker 80’, Duckworth 87’
Cardiau Melyn: Woods 30’, Austin 52’, Harrison 67’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jones, Yakubu, Hughes, Sandell, Minshull, Flynn, Porter (Klukowski 61′), Obeng, O’Connor (Loveridge 79′), Zebroski
Goliau: Zebroski 38’, O’Connor 57’
Cardiau Melyn: Sandell 65’, 66’
Cerdyn Coch: Sandell 66’
.
Torf: 3,172