Caerdydd 3–1 Leeds

Mae dechrau da Russell Slade fel rheolwr Caerdydd yn parhau wedi buddugoliaeth yn erbyn Leeds yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau ail hanner Bruno Ecuele Manga, Frederico Macheda a Kenwyne Jones yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau i’r Adar Gleision.

Prin oedd y cyfleoedd yn yr hanner cyntaf ond daeth Peter Wittingham yn agos gyda chic rydd a gafodd ei harbed gan Marco Silvestri.

Dechreuodd yr Adar Gleision yr ail hanner yn well ac aethant yn haeddianol ar y blaen ar yr awr pan beniodd Ecuele Manga ei gôl gyntaf i’r clwb wedi i Sean Morrison benio’r bêl iddo ar draws y cwrt chwech.

Fu dim rhaid aros yn hir am yr ail gôl wrth i ergyd Macheda wyro i gefn y rhwyd oddi ar Jason Pearce i ddyblu’r fantais.

Caerdydd oedd yn rheoli erbyn hyn ond fe dynnodd Leeds un gôl yn ôl pan anelodd Alex Mowatt chwip o ergyd heibio i David Marshall rhwng y pyst i’r Adar Gleision.

Ond wrth i’r ymwelwyr geisio ail gôl cawsant eu cosbi gan wrthymosodiad pan rwydodd Jones drydedd Caerdydd i ddiogelu’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Pilkington (Ralls 45′), Gunnarsson, Whittingham, Noone, Macheda (Jones 75′), Le Fondre (Morrison 81′)

Goliau: Ecuele Manga 61’, Macheda 67’, Jones 83’

Cardiau Melyn: Ralls 52’, Jones 84’

.

Leeds

Tîm: Silvestri, Berardi (Byram 85′), Bellusci, Pearce, Warnock, Cook, Bianchi (Sloth 76′), Mowatt, Doukara, Morison (Dawson 69′), Antenucci

Gôl: Mowatt 75’

Cardiau Melyn: Pearce 10’, Berardi 28’, Mowatt 50’

.

Torf: 24,220