Everton 0–0 Abertawe
Cafodd Abertawe gêm gyfartal yn erbyn Everton ar Barc Goodison brynhawn Sadwrn er iddynt orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Jonjo Shelvey.
Everton a gafodd y gorau o’r meddiant trwy gydol y gêm ond ychydig iawn o gyfleoedd da a gafodd y tîm cartref. Daeth y ddau orau i’r blaenwr, Romelu Lukaku, yn yr ail hanner, ond methodd y gŵr o Wlad Belg ar y ddau achlysur.
Roedd Jonjo Shelvey yng nghanol popeth i’r ymwelwyr o Gymru ac roedd yn teimlo’i fod yn haeddu cic o’r smotyn pan darodd ei ergyd yn erbyn llaw Antolin Alcaraz yn y cwrt cosbi.
Ac aeth lwc y chwaraewr canol cae gyda’r dyfarnwr o ddrwg i waeth ugain munud o’r diwedd pan dderbyniodd ail gerdyn melyn am atal James McCarthy, a chael ei anfon o’r cae.
Daliodd yr Elyrch eu gafael ar y pwynt serch hynny, gan aros yn chweched yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Everton
Tîm: Howard, Coleman, Alcaraz (Besic 32′), Jagielka, Baines, McCarthy, Barry, McGeady (Lukaku 68′), Naismith (Pienaar 68′), Barkley, Eto’o
Melyn: Barry 38’, Besic 90’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Shelvey, Ki Sung-yueng, Routledge, Sigurdsson (Carroll 76′), Montero (Dyer 79′), Bony (Gomis 61′)
Cardiau Melyn: Shelvey 24’, 72’, Bony 33’, Williams 54’, Sigurdson 66’
Cerdyn Coch: Shelvey 72’
.
Torf: 39,149