Mae rheolwr Caerdydd Russell Slade wedi dweud wrth gefnogwyr am beidio â disgwyl llawer o newid i’w dîm er gwaethaf y ffaith iddyn nhw golli 1-0 i Millwall ganol wythnos.
Fe fydd yr Adar Gleision yn croesawu Leeds i Stadiwm Dinas Caerdydd y prynhawn yma gan obeithio parhau â’u record dda ddiweddar yn eu herbyn.
Mae Caerdydd hefyd yn gobeithio manteisio ar yr ansicrwydd yn y gwrthwynebwyr, sydd hefyd newydd benodi rheolwr newydd ac sydd heb ennill ers chwe gêm.
Ond cadw cysondeb yw prif ffocws Slade, a enillodd ei ddwy gêm gyntaf wrth y llyw gyda Chaerdydd cyn y golled i Millwall.
“Mae’n debygol na fydd llawer o newid,” meddai Slade cyn y gêm. “Rydyn ni’n trio sortio’r cysondeb yna nawr, a dw i’n canolbwyntio ar y grŵp dw i’n credu bydd yn mynd a’r clwb yma ymlaen.
“Wedyn, ym mis Ionawr, fe edrychwn ni eto i weld os allwn ni ddod ag ychydig mwy o gymorth i mewn.”
Turner a Jones yn holliach?
Fe allai’r amddiffynnwr canol Ben Turner fod yn barod i chwarae yn erbyn Leeds heddiw yn ôl Slade, ac mae hefyd yn obeithiol y bydd Kenwyne Jones, sydd â “siawns 50-50” o chwarae, yn holliach.
“Dw i’n gweld nhw [Leeds] fel gwrthwynebwyr peryglus achos nad oes modd eu darogan,” meddai Slade.
“Mae ganddyn nhw dîm talentog ac mae’n anodd gwybod pa fath o system, siâp a chwaraewyr fyddwn ni’n wynebu achos maen nhw wedi newid eu rheolwyr a’u chwaraewyr yn ddiweddar.”
Fe fydd Caerdydd yn ffefrynnau i drechu Leeds y prynhawn yma ar ôl rhediad gwael diweddar y gwrthwynebwyr, sydd bellach yn 18fed yn y Bencampwriaeth.
Ond er bod Caerdydd saith safle’n uwch, dim ond tri phwynt yn well na Leeds maen nhw.
Dim ond un waith y mae Leeds wedi ennill oddi cartref y tymor hwn, fodd bynnag, a dyw Caerdydd heb golli yn eu herbyn nhw gartref yn eu hwyth gêm ddiwethaf.