Paul James yng nghrys y Gweilch
Fe fydd prop Cymru Paul James yn dychwelyd at ranbarth Gweilch ddiwedd y tymor yma, ar ôl tair blynedd yn chwarae i Gaerfaddon.

Fe gadarnhaodd y Gweilch heddiw fod James, a chwaraeodd 180 o weithiau i’r rhanbarth mewn naw mlynedd cyn symud i Loegr, yn ailymuno â nhw’r flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i’r prop pen rhydd, sydd bellach yn 32 oed, arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r rhanbarth.

‘Grêt dod adref’

“Mae’n grêt dod gartref y flwyddyn nesaf,” meddai James. “Dw i’n meddwl mod i’n dychwelyd fel chwaraewr gwell diolch i’r profiadau gwahanol dw i wedi eu cael dros y cwpl o flynyddoedd diwetha’.

“Mae tipyn wedi newid gyda’r Gweilch ers i mi fod yma ddiwetha, ond mae’r tîm wedi dechrau’r tymor yn dda ac mae hynny wedi creu argraff arna i.”

Ymhlith y newidiadau, mae ei hen bartneriaid yn y rheng flaen, Adam Jones a Richard Hibbard wedi mynd.

Gyrfa James

Fe wnaeth James ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch yn 2003, ac ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 150 o weithiau dros y rhanbarth.

Enillodd bedair cynghrair Celtaidd yn ei gyfnod gyda’r rhanbarth, ac ar y lefel rhyngwladol mae ganddo hefyd 55 o gapiau dros Gymru.

Hyd yn hyn mae wedi chwarae 59 o gemau dros Gaerfaddon ers symud yno yn 2012, gan sgorio un cais.