Jonathan Davies
Mae tîm hyfforddi Cymru am aros i weld canlyniadau sgan ar ysgwydd y canolwr Jonathan Davies cyn gwneud penderfyniad i’w gynnwys yn y garfan ar gyfer gemau’r hydref.

Cafodd Jonathan Davies ei anafu wrth chwarae ym muddugoliaeth Clermont Auvergne yn erbyn Sale Sharks yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddoe.

Ond gyda dau ganolwr arall – Scott Williams o’r Scarlets a Cory Allen o Gleision Caerdydd – yn cael eu hanafu hefyd dros y penwythnos, mae’n achos pryder i Warren Gatland.

Er hynny, y disgwyl yw y bydd Williams ac Allen yn barod ar gyfer y gêm gynta’ yn erbyn Awstralia y penwythnos nesa’.

Symud North

Posibilrwydd arall yw y byddai’r asgellwr, George North, a sgoriodd bedwar cais i Northampton yn erbyn y Gweilch dydd Sadwrn yn cael ei symud i ganol cae.

Bydd tîm rygbi Cymru’n chwarae yn erbyn Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica yn ystod cyfres yr hydref.