4 cais i North
Northampton 34 – 6 Y Gweilch
Sgoriodd asgellwr Cymru, George North, 4 cais i Northampton wrth iddyn nhw roi cweir go iawn i’r Gwelch yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop.
Doedd Y Gweilch heb golli y tymor yma cyn hyn, ond sicrhaodd North a’i dîm bod y record honno’n cael ei chwalu.
Croesodd North ddwywaith yn yr hanner cyntaf i roi ei dîm 20 – 3 ar y blaen erbyn yr egwyl.
Er i’r Seintiau ddechrau’n siomedig yn yr ail hanner, croesodd North am ei hat-tric i dorri calonnau’r Cymry.
A gyda phum munud yn weddill ar y cloc sgoriodd North ei bedwerydd, a phedwerydd ei dîm i gipio’r pwynt bonws.
Tîm y Gweilch: Dan Evans; Tom Grabham, Jeff Hassler, Josh Matavesi, Hanno Dirksen; Dan Biggar, Rhys Webb; Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Alun Wyn Jones (c), James King, Justin Tipuric, Joe Bearman.
Eilyddion: Sam Parry, Duncan Jones, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Morgan Allen, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies.