Abertawe 2 – 0 Caerlŷr

Sgoriodd Wilfried Bony gôl ym mhob hanner ar y Liberty i sicrhau buddugoliaeth oedd mawr ei hangen yn erbyn Caerlŷr.

Roedd y tîm o Gymru ar rediad siomedig o bum gêm heb fuddugoliaeth, ar ôl dechrau arbennig i’r tymor.

Sgoriodd Bony y gyntaf wedi 34 munud o’r gêm diolch i symudiad ardderchog gan y tîm cartref – Gylfi Sigurdsson yn darparu’r bas allweddol i Bony rwydo dan gorff y golwr, Kasper Schmeichel.

Daeth yr ail wedi 57 munud – Bony’n ergydio o groesiad Jefferson Montero, oedd wedi cymryd lle Nathan Dyer yn y tîm i ddechrau ei gêm gyntaf yn y gynghrair ers trosglwyddo i Abertawe dros yr haf.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe i’r chweched safle yn Uwch Gyngrair Lloegr – uwchben Manchester United a thîm eu cyn reolwr, Brendan Rogers, Lerpwl.

Tîm Abertawe: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams (C), Taylor, Ki, Shelvey, Sigurdsson, Routledge, Montero, Bony