Eilyddio galluog gan Justin Edinburgh
Daeth Joe Pigott o’r fainc yn yr ail hanner i sicrhau pwynt i Gasnewydd yn erbyn Accrington Stanley ar Rodney Parade heddiw.
Gêm ddigon di-fflach oedd hi yn yr hanner cyntaf, a dim syndod ei bod hi’n ddi-sgôr ar yr egwyl.
Er gwaethaf rhediad da diweddar y tîm catref, Accrington oedd i fynd ar y blaen wedi 62 munud. Sean Maguire oedd y sgoriwr o bas Luke Joyce – ei ergyd yn cael ei gwyro heibio i Day yn y gôl i Gasnewydd.
Penderfynodd Justin Edinburgh ei bod yn amser i gyflwyno Pigott o’r fainc – yr aneffeithiol Aaron O’Connor yn ildio ei le yn yr ymosod iddo.
Ymhen deng munud, roedd menter Edinburgh wedi talu ei ffordd wrth i Pigott grymanu’r bêl yn hyfryd i gornel uchaf y rhwyd o 30 llath.
Er i Gasnewydd bwyso am gôl fuddugol, roedd y ddau dîm yn hapus i setlo am bwynt ar ddiwedd y 90 munud.
Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn y seithfed safle yn yr Ail Adran, sef safle isaf y gemau ail-gyfle.