Aflwyddiannus oedd ymdrechion Caerdydd i sicrhau trydedd buddugoliaeth o’r bron i’w rheolwr newydd Russell Slade yn The New Den heddiw.

Roedd gôl i gapten Millwall, Danny Shittu, wedi 54 munud yn ddigon i’r tîm cartref.

Daeth cyfle gorau yr ymwelwyr cyn yr hanner wrth i cyn olwr Caerdydd, David Forde, gyflawni arbediad dwbl ardderchog – er y dylai Adam Le Fondre fod wedi claddu’r ail gyfle mewn gwirionedd.

Mae’r Caerdydd yn aros yn y degfed safle am y tro, er bod possibilrwydd iddynt lithro wedi gemau’r prynhawn.