Macclesfield 1–1 Wrecsam

Mae Wrecsam yn yr het ar gyfer rownd gyntaf y Cwpan FA yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Macclesfield yn y bedwaredd rownd ragbrofol nos Wener.

Bydd y Dreigiau’n croesawu Macclesfield i’r Cae Ras i ail chwarae wedi i’r gêm yn Moss Rose orffen y gyfartal, gôl yr un.

Rhoddodd Waide Fairhurst y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Connor Jennings unioni i Wrecsam gydag ergyd o bellter hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Bu bron i Macclesfield fynd yn ôl ar y blaen wedi hynny ond tarodd peniad Paul Lewis yn erbyn y postyn wrth i’r Dreigiau ddal eu gafael.