Dreigiau Casnewydd Gwent 26–30 Newcastle

Colli fu hanes y Dreigiau yn eu hail gêm yng ngrŵp 3 Cwpan Sialens Ewrop yn erbyn Newcastle ar Rodney Parade nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref dri chais mewn gêm agos ond yr ymwelwyr o ogledd ddwyrain Lloegr aeth â hi yn y diwedd.

Roedd Rory Clegg wedi cicio’r ymwelwyr dri phwynt ar y blaen cyn i’r asgellwr, Matthew Pewther, groesi am gais cyntaf y gêm i’r Dreigiau.

Er na chafodd y cais hwnnw ei drosi, fe ychwanegodd Angus O’Brien gic gosb i ymestyn mantais y tîm cartref i bum pwynt hanner ffordd trwy’r hanner.

Tarodd Newcastle yn ôl wedi hynny gyda saith pwynt diolch i gais Lee Smith a throsiad Rory Clegg.

Ond newidiodd y fantais ddwylo eto’n fuan wedyn wrth i’r Dreigiau orffen yr hanner yn gryf gyda dau gais, y naill i Talupe Faletau a’r llall i Ashley Smith, 20-13 ar yr egwyl.

Dechreuodd Newcastle yr ail hanner yn well ac roeddynt ar y blaen o fewn deg munud yn dilyn ceisiau cynnar Mark Wilson a Will Witty ynghyd â dau drosiad Clegg, 20-27 y sgôr.

Rhoddodd dwy gic gosb Tom Prydie’r Dreigiau’n ôl o fewn pwynt gyda chwarter awr i fynd, ond Newcastle a gafodd y gair olaf gyda chic gosb Lee Smith.

Pwynt bonws yn unig i’r Dreigiau felly ond maent yn aros yn ail yn nhabl grŵp 3 serch hynny.

.

Dreigiau

Ceisiau: Matthew Pewther 14’, Talupe Faletau 31’, Ashley Smith 40’

Trosiad: Tom Prydie 31’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 22’, Tom Prydie 55’, 63’

.

Newcastle

Ceisiau: Lee Smith 27’, Mark Wilson 41’ Will Witty 47’

Trosiadau: Rory Clegg 27’, 41’, 47’

Ciciau Cosb: Rory Clegg 8’, 36’, Lee Smith 65’

Cerdyn Melyn: Alex Tait 54’