Mae yna dri newid i dîm y Gweilch ar gyfer y daith i Northampton yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Cwpan Ewrop.
Mae’r asgellwr Eli Walker a’r wythwr Dan Baker allan oherwydd anafiadau, Hanno Dirksen a Joe Bearman fydd yn dechrau’r gêm yn eu lle. Daw Justin Tipuric fewn i’r tîm fel blaenasgellwr ochr agored.
Mi wnaeth y Gweilch ddechrau’r gystadleuaeth gyda buddugoliaeth gyfforddus y penwythnos diwethaf yn erbyn Treviso o 42-7, ond rhaid cofio iddynt golli’r ddwy gêm yn erbyn Northampton y tymor diwethaf yng nghwpan Heineken.
Mae’r Gweilch yn ddiguro y tymor hwn ac ar frig tabl y Pro 12, ond mae’n sicr mai Northampton fydd yn rhoi’r prawf anodda iddynt y tymor hwn hyd yn hyn.
‘‘Yr hyn a wna’r gemau Ewropeaidd yw rhoi cyfle i chi brofi eich hunan yn erbyn y goreuon a dyna fydd yn digwydd i ni y penwythnos hwn. Fe wnaethom golli iddynt ddwywaith y tymor diwethaf ac felly yn hollol ymwybodol o’r gwaith sydd o’n blaen,’’ meddai Prif Hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Dan Biggar a Rhys Webb.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Justin Tipuric a Joe Bearman.
Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Morgan Allen, Sam Lewis, Martin Roberts a Sam Davies.