Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac wedi cadw’r un tîm ifanc a frwydrodd mor ddewr yn erbyn Toulon oddi cartref y penwythnos diwethaf, i wynebu Caerlŷr y penwythnos yma.
Bydd 11 o chwaraewyr rhyngwladol yn dechrau i’r Scarlets, ac mae chwech ohonyn nhw yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.
‘‘Yr wyf yn edrych ymlaen at y gêm ac i weld chwaraewyr rhyngwladol o wledydd eraill yn dod yma i chwarae. Yr oedd y gêm yn erbyn Toulon yn brawf mawr i ni, ac rwy’n credu i’r chwaraewyr wneud ymdrech dda ac fe allwn gymryd llawer o hyder o hynny,’’ meddai Pivac.
‘‘Yr oedd y bechgyn yn siomedig iawn yn yr ystafell newid wedi’r gêm, ac yr oeddynt yn teimlo y gallent fod wedi ennill ar ddiwrnod arall. Gydag ymdrech fel yna gallwn gystadlu yn erbyn unrhyw dîm. Os y gallwn ailadrodd y perfformiad yn erbyn Teigrod Caerlŷr y penwythnos hwn bydd gennym gyfle da i gael rhywbeth o’r gêm,’’ ychwanegodd Pivac.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (Capten), Kristian Phillips, Rhys Priestland ac Aled Davies.
Blaenwyr – Phil John, Kirby Myhill, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, Rory Pitman a John Barclay.
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Samson Lee, George Earle, James Davies, Rhodri Williams, Steven Shingler a Michael Tagicakibau.