Y blaenasgellwr Josh Navidi fydd yn arwain y Gleision yn erbyn Femi-CZ Rugby Rovigo yn yr Eidal brynhawn yfory am dri o’r gloch yn ail rownd gemau rygbi Ewropeaidd.
Mae Navidi yn un o wyth newid i’r tîm a gafodd fuddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Grenoble. Daw Josh Turnbull fewn i’r rheng-ôl gyda Macauley Cook yn symud i’r ail-reng yn gwmni i Chris Dicomidis. Bydd yr Eidalwr Manoa Vosawi yn dechrau’r gêm yn safle’r wythwr. Kristian Dacey fydd y bachwr, gyda’r ddau brop Gethin Jenkins a Scott Andrews yn cadw cwmni iddo.
Bydd Cory Allen yn dathlu cael ei ddewis i garfan Cymru wrth ddod fewn yn bartner i Adam Thomas, a daw Dan Fish i fewn ar yr asgell.
‘‘Bydd Rovig yn barod am y gêm…maen nhw yn dîm mawr corfforol, a’n gobaith ni yw rhedeg llawer o’r bêl,’’ meddai Cyfarwyddwr y Gleision, Mark Hammett.
Tîm y Gleision
Olwyr – Rhys Patchell, Richard Smith, Cory Allen, Adam Thomas, Dan Fish, Gareth Davies a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Gethin Jenkins, Kristian Dacey, Scott Andrews, Chris Dicomidis, Macauley Cook, Josh Turnbull, Josh Navidi (Capten) a Manoa Vosawai.
Eilyddion – Rhys Williams, Thomas Davies, Adam Jones, Filo Paulo, Ellis Jenkins, Lewis Jones, Gavin Evans a Geraint Walsh.