Rodney Parade
Mi fydd y clo James Thomas yn gwneud ei ddechreuad cyntaf yn Ewrop i’r Dreigiau wrth iddynt herio Newcastle Falcons ar faes Rodney Parade nos yfory.

‘‘Roedd y newydd ychydig yn annisgwyl, ond rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau i’r Dreigiau. Rwy’n hapus dros ben fy mod yn chwarae. Rydych yn dysgu llawer am y gêm wrth chwarae wrth ochr chwaraewr fel Rynard Landman,’’ meddai Thomas.

Tri newid sydd i’r tîm a gurodd Stade Francais penwythnos diwethaf. Elliott Dee fydd yn cymryd lle T Rhys Thomas yn safle’r bachwr, a Dan Way fydd yn safle’r prop yn lle Lloyd Fairbrother. Un newid sydd yn yr ail reng gyda James Thomas yn cymryd lle Andrew Coombs.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Lee Byrne (Capten), Matthew Pewtner, Tom Prydie, Ashley Smith, Hallam Amos, Angus O’Brien a Richie Rees.

Blaenwyr – Boris Stankovich, Elliot Dee, Dan Way, James Thomas, Rynard Landman, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – T. Rhys Thomas, Phil Price, Lloyd Fairbrother, Andrew Coombs, Andy Powell, Jonathan Evans, Dorian Jones ac Aled Brew.