Mae Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr wedi gofyn i reolwr Abertawe, Garry Monk egluro’i sylwadau dadleuol yn dilyn yr ornest yn erbyn Stoke dros y penwythnos.

Roedd Monk yn anhapus gyda phenderfyniad y dyfarnwr Michael Oliver i roi cic o’r smotyn i Stoke, wedi iddo benderfynu bod yr amddiffynnwr Angel Rangel wedi tynnu ymosodwr Stoke, Victor Moses i lawr yn y cwrt cosbi.

Yn dilyn y gêm, dywedodd Monk fod Moses wedi twyllo ac nad oedd Rangel wedi’i gyffwrdd – ac mae’n ymddangos o luniau Sky Sports yn dilyn yr ornest fod gan Monk reswm i amau’r penderfyniad.

Dywedodd Monk fod penderfyniad y dyfarnwr yn “ffiaidd”.