Chris Coleman
Mae Cymru wedi llithro pum safle i 34ain yn rhestr detholiadau FIFA er gwaethaf canlyniadau calonogol mis Hydref.

Llwyddodd tîm Chris Coleman i gael gêm gyfartal â Bosnia a churo Cyprus mewn dwy gêm ragbrofol, canlyniadau sydd yn golygu eu bod yn parhau ar tua’r un nifer o bwyntiau ag o’r blaen.

Ond oherwydd bod ambell dîm oddi tanyn nhw wedi gwneud yn well na’r disgwyl mae Cymru wedi cwympo llond llaw o safleoedd.

Llithrodd Lloegr ddau safle i 20fed er gwaethaf ennill dwy gêm ragbrofol yn erbyn San Marino ac Estonia, ac mae’r Alban hefyd wedi cwympo wyth safle i 37ain er iddyn nhw drechu Georgia a chael gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Pwyl.

Cododd Gogledd Iwerddon i 43fed, naid o 28 safle, ar ôl ennill yn erbyn Ynysoedd y Faro a Groeg tra bod Gweriniaeth Iwerddon yn codi un safle i 61ain ar ôl curo Gibraltar a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Almaen.

Cododd Gwlad Belg, gwrthwynebwyr nesaf Cymru yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016, i’r pedwerydd safle sef yr uchaf maen nhw erioed wedi bod.

Ymysg timau eraill grŵp Cymru fe lithrodd Bosnia-Herzegovina un safle i 26ain, cododd Israel 19 safle i 45fed, disgynnodd Cyprus 11 safle i 96ain ac mae Andorra wedi codi un safle i 202ain.

Yr Almaen sydd yn parhau ar frig y detholiadau ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan y Byd dros yr haf, gyda’r Ariannin yn ail a Colombia’n drydydd.