Gareth Davies
Mae’r pedwar rhanbarth wedi croesawu penodiad Gareth Davies fel cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, yn dilyn pleidlais neithiwr.

Dywedodd Davies ei hun ei fod yn falch o’r gefnogaeth y mae wedi’i gael gan glybiau rygbi ar hyd a lled Cymru, ac fe groesawodd prif weithredwr URC Roger Lewis y penodiad.

Cafodd prif weithredwr y Dreigiau ei ethol fel cadeirydd yn lle David Pickering, sydd wedi gorfod camu lawr o’r swydd ar ôl 11 mlynedd.

Fe fydd Gareth Davies, a drechodd cadeirydd pwyllgor ariannol URC Martin Davies ar gyfer y gadeiryddiaeth, nawr yn gadael ei swydd gyda’r rhanbarth o Went.

Collodd Pickering ei le ar y bwrdd ar ôl i Gareth Davies ac Anthony Buchanan gael ei ethol i Fwrdd yr Undeb o’i flaen ef mewn pleidlais fis diwethaf.

Roedd hynny’n golygu bod angen ethol cadeirydd newydd, gyda Davies yn taflu’i enw i’r pair, ac mae rhanbarthau Cymru wedi croesawu canlyniad y bleidlais.

Croeso gan y clybiau

“Rydym yn llongyfarch Bwrdd URC am ystyried barn clybiau cymunedol fel cyfranddalwyr yn yr Undeb ac apwyntio Gareth Davies i rôl Cadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru,” meddai’r rhanbarthau mewn datganiad y bore yma.

“Yn ogystal â gyrfa chwarae ddisglair, mae gan Gareth gysylltiad naturiol a dwfn gyda’r gêm yng Nghymru ar bob lefel.

“Mae ei onestrwydd a’i werthoedd yn gysylltiedig â’r gêm ac yn ogystal â hynny mae ganddo brofiad helaeth o swyddi corfforaethol o fewn a thu hwnt i Gymru.”

Diolchodd Gareth Davies ei hun am gael ei ethol fel cadeirydd, gan ddweud fod y gefnogaeth y mae eisoes wedi’i dderbyn gan glybiau rygbi yn “galonogol”.

Dywedodd Roger Lewis ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â Gareth Davies er mwyn “datblygu’n rôl fel chwaraeon cenedlaethol Cymru, a gwlad allweddol ar frig y gêm yn rhyngwladol”.