Casnewydd 1–0 Southend

Mae Casnewydd yn closio at safleoedd ail gyfle’r Ail Adran yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Southend ar Rodney Parade nos Fawrth.

Sgoriodd Mark Byrne unig gôl y gêm i’w dîm gydag ychydig dros chwarter awr i fynd.

Ychydig iawn o gyfleoedd a gafwyd yn yr hanner cyntaf ac yn yr ail fe wastraffodd Southend gyfle euraidd i fynd ar y blaen pan fethodd Myles Weston o’r smotyn yn dilyn trosedd Kevin Feely yn y cwrt.

Manteisiodd Casnewydd yn llawn pan ddisgynnodd y bêl i lwybr Byrne wedi 74 munud, yntau’n dod o hyd i’r gornel isaf gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi.

Roedd honno ynghyd â llechen lân yn y cefn yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i dîm Justin Edinburgh.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r wythfed safle yn nhabl yr Ail Adran, un safle ac un pwynt yn unig y tu allan i’r safleoedd ail gyfle
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Feely, Jones, Tancock (Pigott 54′), Hughes, Sandell, Minshull, Byrne (Loveridge 82′), Porter (Flynn 60′), Zebroski, O’Connor
Gôl: Byrne 74’
Cerdyn Melyn: Porter 9’
.
Southend
Tîm:
Bentley, White, Thompson, Prosser, Binnom-Williams, Leonard, Atkinson, Timlin (Payne 82′), Deegan, Weston (Barnard 66′), Corr (Coulthirst 89′)
Cerdyn Melyn: Timlin 57’
.
Torf: 2,558