Caerdydd 3–1 Ipswich

Mae dechrau da Russell Slade wrth y llyw yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn parhau yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Ipswich yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Er i’r ymwelwyr fynd ar y blaen fe darodd yr Adar Gleision yn ôl i ennill y gêm gyda goliau Peter Wittingham, Federico Macheda ac Adam Le Fondre.

Caerdydd a gafodd y dechrau gorau ond Ipswich aeth ar y blaen wedi hanner awr o chwarae, a hynny mewn steil. Saethodd Daryl Murphy hanner foli berffaith i gefn y rhwyd o 25 llath, dim gobaith i David Marshall yn y gôl.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i Wittingham a doedd y gôl yma ddim yn ffôl chwaith, y chwaraewr canol cae yn canfod y gornel uchaf o bellter.

Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond roedd Caerdydd ar y blaen wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod ar ôl i Macheda wyro croesiad Anthony Pilkington i’r gôl.

Yna, roedd y tri phwynt yn ddiogel hanner ffordd trwy’r hanner wedi i Le Fondre sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb gyda chymorth gwyriad.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r degfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.
Caerdydd
Tîm:
Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Pilkington, Gunnarsson, Whittingham, Noone, Macheda (Ralls 84′), Le Fondre (Maynard 78′)
Goliau: Wittingham 37’, Macheda 47’, Le Fondre 69’
Cardiau Melyn: Fabio 62’, Macheda 74’
.
Ipswich
Tîm:
Gerken, Parr, Chambers, Berra, Mings, Bru (Anderson 87′), Skuse, Williams (Bishop 76′), Murphy, McGoldrick, Sammon (Bajner 67′)
Gôl: Murphy 29’
Cerdyn Melyn: Mings 56’
.
Torf: 20,191