James Hook
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi mynnu mai’r flwyddyn nesaf yn arwain tuag at Gwpan y Byd yw’r prif beth yn ei feddwl, ar ôl ’gadael rhai enwau mawr allan o’i garfan heddiw.

Y “deuddeg mis nesaf” sydd yn bwysig wrth ystyried y garfan, yn ôl Gatland, gyda Chwpan y Byd yn cael ei chynnal yn Lloegr yn 2015 a Stadiwm y Mileniwm yn un o’r meysydd fydd yn cael ei ddefnyddio.

Ni chafodd prop y Gleision Adam Jones na maswr Caerloyw James Hook eu cynnwys yn y garfan ar gyfer pedair gêm yr hydref yn erbyn Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica ym mis Tachwedd eleni.

Ond mae nifer o enwau cyfarwydd yn dychwelyd ar ôl anafiadau gan gynnwys Sam Warburton, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny a Bradley Davies.

Cyfle i Smith

Fe allai prop ifanc y Gweilch Nicky Smith ennill ei gap cyntaf dros Gymru, ond ef yw’r unig wyneb newydd ymhlith y 34 a enwyd.

“Rydyn ni’n hapus â’r garfan, mae llawer o brofiad wedi dod nôl i mewn, 12 chwaraewr oedd wedi anafu dros yr haf ddaeth ddim gyda ni i Dde Affrica,” meddai Gatland.

“Maen nhw’n ffit ac yn ôl ac mae gennym ni gwpl o chwaraewyr ifanc cyffrous hefyd.

“Mae Nicky Smith wedi bod yn chwarae’n arbennig o dda dros y Gweilch, mae wedi creu argraff arnom ni ac mae’n gyfle gwych.”

Cadw’r drws ar agor

Fe awgrymodd Gatland fod chwarae y tu allan i Gymru wedi effeithio ar gyfleoedd rhai chwaraewyr i gael eu dewis.

Mae Hook, Ian Evans a Gavin Henson ymysg y chwaraewyr sydd yn chwarae yn Lloegr na chafodd eu henwi.

Syndod arall oedd nad oedd Adam Jones, a symudodd o’r Gweilch i’r Gleision dros yr haf, wedi’i enwi chwaith er gwaethaf y ffaith nad yw wedi bod ar ei orau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mynnodd Gatland bod digon o brofiad yn y garfan o hyd, gan awgrymu mai hon oedd y garfan o chwaraewyr sydd ar flaen ei feddwl wrth ystyried Cwpan y Byd.

Ond fe adawodd cil y drws yn agored i’r chwaraewyr hynny geisio newid ei feddwl dros y deuddeg mis nesaf.

“Pan edrychwch chi ar y garfan mae yna lwyth o brofiad. Rydyn ni wedi ystyried llawer o bethau ac wedi gwneud penderfyniadau anodd,” meddai Gatland.

“Roedd rhaid i ni ystyried y balans o chwaraewyr sydd yn chwarae yng Nghymru a thu hwnt, oherwydd pa mor aml y gallen nhw ymarfer gyda ni, ond rwy’n hapus â’r garfan.

“Rydym ni’n edrych i’r dyfodol a’r deuddeg mis i ddod gyda’r garfan hon, ond dyw hynny ddim yn cau’r drws i’r rheiny sydd heb gael eu dewis.”