Toulon 28–18 Scarlets
Colli fu hanes y Scarlets er gwaethaf ymdrech ddewr yn erbyn Toulon yn y Stade Felix Mayol brynhawn Sul.
Hon oedd gêm gyntaf y ddau dîm yng nghystadleuaeth newydd Pencampwriaeth Cwpan Ewrop, ond y Ffrancwyr, fel enillwyr olaf y Cwpan Heineken, fydd un o’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth sy’n cymryd ei lle, a does dim cywilydd o gwbl mewn colli oddi cartref yn eu herbyn.
Ciciodd y Cymro, Leigh Halfpenny, Toulon ar y blaen yn dilyn cerdyn melyn cynnar Rory Pitman i’r Scarlets.
Roedd y Cymry’n gyfartal cyn iddo ddychwelyd i’r cae serch hynny diolch i gic gosb Rhys Priestland.
Daeth cais cyntaf y gêm wedi deunaw munud pan groesodd Matt Giteau o dan y pyst ar ôl cyfuno’n dda gyda Maxime Mermoz.
Roedd y Scarlets ar y blaen, 8-10 pwynt wedi i John Barclay hyrddio drosodd am gais cyntaf yr ymwelwyr ond aeth Toulon yn ôl ar y blaen yn syth o’r ail ddechrau bron wrth i Mermoz daro cic Scott Williams i lawr cyn tirio.
Cyfnewidiodd Priestland a Halfpenny gic gosb yr un wedi hynny, 18-13 ar hanner amser.
Treuliodd Emyr Phillips ddeg munud yn y gell gosb yn yr ail hanner ond er na wnaeth ei dîm ildio tra yr oedd oddi ar y cae fe aeth Toulon a’r gêm o’u gafael yn fuan wedyn gyda phum pwynt o droed Halfpenny a chais i Steffon Armitage.
Roedd digon o amser ar ôl i Kristian Phillips groesi am gais hwyr, wrth i’r Scarlets roi gwedd ychydig mwy parchus ar y sgôr, 28-18.
Mae’r Scarlets ar waelod grŵp 3 wedi’r gêm gyntaf ac mae gemau anodd eraill yn eu haros gydag Ulster a Chaerlŷr yn y grŵp hefyd.
.
Toulon
Ceisiau: Matt Giteau 18’, Maxime Mermoz 30’, Steffon Armitage 72’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 30’, 72’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 7’, 40’, 66’
.
Scarlets
Ceisiau: John Barclay 28’, Kristian Phillips 80
Trosiad: Rhys Priestland 28’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 15’, 37’
Cardiau Melyn: Rory Pitman 7’, Emyr Phillips 54’