Y Bala 4–1 Port Talbot
Cafodd Port Talbot gweir gan y Bala ar Faes Tegid yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sul.
Sgoriodd Ian Sheridan a Mark Connolly ddwy gôl yr un wrth i’r tîm cartref ennill y gêm yn gyfforddus i godi yn ôl i’r pedwerydd safle yn y tabl.
Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen wedi chwarter awr gyda Connolly yn ei chanol hi yn creu’r gyntaf i Sheridan cyn sgorio’r ail ei hun. Roedd ei groesiad i Sheridan ar gyfer y gyntaf yn wych a’i beniad ar gyfer yr ail braidd yn ffodus oddi ar cefn ei ben.
Y Bala oedd y tîm gorau am weddill yr hanner cyntaf hefyd ond bu rhaid iddynt aros tan bum munud cyn yr egwyl am y drydedd gôl wrth i Sheridan a Connolly gyfuno eto. Dwynodd Sheridan y meddiant ar ochr y cwrt cosbi cyn croesi ar draws y cwrt chwech i greu gôl syml i Connolly.
Nid oedd Port Talbot wedi cynnig llawer yn yr hanner cyntaf ond rhoddodd Chad Bond lygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyda foli dda o ochr y cwrt cosbi yn eiliadau olaf yr hanner.
Roedd angen arbediad gwych gan Steve Cann i atal Connall Murtagh rhag ychwanegu pedwaredd toc wedi’r awr, ond fe wnaeth Sheridan hynny ym munud olaf y naw deg, pan sgoriodd ei ail ef o’r gêm yn dilyn rhediad unigol da.
Roedd digon o amser ar ôl i eilydd Port Talbot, Liam McCreesh, dderbyn, nid un, ond dau gerdyn melyn a chael ei anfon o’r cae am gega ar brynhawn i’w anghofio i’r Gwŷr Dur.
Mae’r canlyniad yn codi’r Bala i’r pedwerydd safle, wrth i Bort Talbot aros yn seithfed.
.
Y Bala
Tîm: Morris, Valentine, Smith, S. Jones, Bell, Murtagh, Connolly (Kelly 80’), M. Jones (Lunt 90’), Pearson, Sheridan, Smith, (Brown 87’)
Goliau: Sheridan 9’, 89’, Connolly 16’, 41’
Cardiau Melyn: Murtagh 64’, Smith 81’
.
Port Talbot
Tîm: Cann, C. Evans, Thomas, Bond (McCreesh 62’), Surman, A. Evans, Lewis, Reffell, Parry, Rose, Bowen
Gôl: Bond 45’
Cardiau Melyn: Surman 43’, C. Evans 49’, Thomas 60’, McCreesh 90+2’, 90+3’, Cann 90+3’
Cerdyn Coch: McCreesh 90+3’
.
Torf: 208