Gweilch 42–7 Treviso

Cafodd y Gweilch y dechrau perffaith i’w hymgyrch Ewropeaidd gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Treviso ar y Liberty yng ngrŵp 1 Pencampwriaeth Cwpan Ewrop brynhawn Sul.

Cafodd y Cymry bwynt bonws hefyd wrth groesi am bum cais yn erbyn yr Eidalwyr siomedig.

Roedd Dan Biggar eisoes wedi cicio tair cic gosb cyn i Jeff Hassler groesi am gais cyntaf y Gweilch hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Ychwanegodd Rhys Webb ail cyn yr egwyl ac roedd y Cymry’n gyfforddus, 23-0 wedi deugain munud.

Dechreuodd yr ail hanner gyda chais yr un i’r cefnwr, Daniel Evans, a’r wythwr, Dan Baker, wrth i’r Gweilch sicrhau’r pwynt bonws cyn yr awr.

Ychwanegodd Evans ei ail ef a phumed ei dîm toc wedi’r awr, a’r unig siom i’r Gweilch oedd ildio cais cysur i Ludovico Nitoglia yn y munudau olaf.

Mae’r canlyniad yn eu rhoi ar frig grŵp 1 wedi un gêm, bwynt uwch ben Racing Metro wedi iddynt hwy drechu Northampton ddydd Sadwrn.
.
Gweilch
Ceisiau: Jeff Hassler 22’, Rhys Webb 34’, Daniel Evans 48’, 63’, Dan Baker 54’
Trosiadau: Dan Biggar 22’, 34’, 48’, 54’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 6’, 9’, 14’
.
Treviso
Cais: Ludovico Nitoglia 78’
Trosiad: Joe Carlisle 78’
Cardiau Melyn: Marco Fusser 34’, Filipe Manu 46’