Bydd y Gweilch yn chwarae Benetton Treviso ar y Liberty am un o’r gloch brynhawn Sul yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Cwpan Ewrop.
Meddai Prif Hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy:
‘‘Bydd hon yn her newydd i ni fel grŵp. Yr ydym wedi cael canlyniadau da yn y Pro 12, ond ni fydd hynny’n cyfrif dim Dydd Sul. Byddwn yn dechrau yn gyfartal o ran pwyntiau gyda Treviso ac yn gwybod y byddwn ar ôl Northampton neu Racing Metro ar ôl iddynt chwarae Dydd Sadwrn – dyma reality y penwythnos,’’ meddai Tandy.
‘‘Nid ydym wedi bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf, ond yr ydym wedi bod yn gyson ac yn canolbwyntio ar ein perfformiad. Yr ydym yn anelu at berffeithrwydd ond nid ydym wedi llwyddo bob tro ond dyna yw’r nod. Yr ydym yn falch o’r dechreuad a gafwyd yn y Pro 12, ond yr ydym yn ymwybodol bod gemau caled yn ein gwynebu ac mae’n bwysig ein bod yn paratoi amdanynt,’’ ychwanegodd Tandy.
‘‘Yr oedd y gefnogaeth yn arbennig yn erbyn y Gleision y penwythnos diwethaf, a bydd yn rhaid iddynt fod yr un peth dydd Sul eto gan fod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae. Mae’r gefnogaeth yn gymorth mawr i hyder y bechgyn. Y gêm Dydd Sul fydd y cymal cyntaf o chwe gêm bwysig ond fe fyddwn yn barod am yr her,’’ dywedodd Tandy.
Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 am 1 o’r gloch.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar a Rhys Webb.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Sam Lewis a Dan Baker.
Eilyddion – Scott Otten, Duncan Jones, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Joe Bearman, Justin Tipuric, Martin Roberts a Sam Davies.