Bydd Gleision Caerdydd yn dechrau Cystadleuaeth Pencampwriaeth Cwpan Ewrop yn erbyn Grenoble ar Barc yr Arfau brynhawn yfory am 2:30.
Bydd y tîm o Ffrainc sydd yn y Top 14 yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy ochr.
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Marl Hammett wedi dewis tîm cryf ar gyfer y gêm. Bydd y bartneriaeth newydd o Lloyd Williams fel mewnwr a Gareth Davies yn faswr yn dechrau’r gêm. Bydd Rhys Patchell yn symud o safle’r maswr i fod yn gefnwr a bydd Adam Thomas yn dechrau yn y canol gyda Gavin Evans.
Gan fod Alex Cuthbert yn colli’r gêm oherwydd anaf daw Richard Smith i’r tîm ar yr asgell. Daw’r prop Sam Hobbs i’r tîm fydd yn dechrau, ac i gadw cwmni i’r bachwr a’r Capten Matthew Rees ac Adam Jones yn y rheng flaen. Fe fydd Macauley Cook yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored a chwaraewr rhyngwladol yr Eidal, Manoa Vosawai fydd yn safle’r wythwr.
‘‘Mae’n braf cael chwarae adref ar ôl chwarae tair gêm o’r bron oddi cartref. Mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen at yr her. Fel rhanbarth yr ydym wedi gwneud yn dda yn Ewrop, a bydd yn rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a gobeithio agor y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth,’’ meddai Mark Hammett.
Tîm y Gleision
Olwyr – Rhys Patchell, Richard Smith, Adam Thomas, Gavin Evans, Geraint Walsh, Gareth Davies a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Sam Hobbs, Matthew Rees (Capten), Adam Jones, Jarrad Hoeata, Filo Paulo, Macauley Cook, Sam Warburton a Manoa Vosawai.
Eilyddion – Kristian Dacey, Gethin Jenkins, Scott Andrews, Josh Turnbull, Josh Navidi, Tavis Knoyle, Cory Allen a Dan Fish.