Bydd y maswr Angus O’Brien yn dechrau am y tro cyntaf i’r Dreigiau yn y gêm yn erbyn Stade Francais nos yfory ym Mharis yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Cwpan Ewrop.

Mae O’Brien wedi bod yn aelod cyson o garfan y Dreigiau’r tymor hwn ar ôl symud o’r Academi i’r garfan hŷn.  Mae O’Brien yn un o bum newid y mae Lyn Jones wedi ei wneud i’r tîm a gollodd i Gaeredin y penwythnos diwethaf.

‘‘Yr ydym yn edrych ymlaen at chwarae yn y gystadleuaeth newydd hon, mae’n bryd i ni wneud yn dda yn Ewrop ac ennill dipyn o barch.  Yr ydym yn ymwybodol bod gêm anodd o’n blaen ond mae’n rhaid i ni gredu yn ein hunain.  Mae gan y tîm o Ffrainc agwedd dda at gadw’r gêm yn fyw ac fe fydd rhaid i ni fod yn effro.  Yr ydym yn sylweddoli nad yw pethau yn mynd yn dda ar y funud ond yn gwybod y gall y sefyllfa newid yn gyflym,’’ meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Lyn Jones.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Lee Byrne (Capten), Matthew Pewtner, Tom Prydie, Ashley Smith, Hallam Amos, Angus O’Brien a Richie Rees.

Blaenwyr – Boris Stankovich, T. Rhys Thomas, Lloyd Fairbrother, Andrew Coombs, Rynard Landman, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – Elliot Dee, Owen Evans, Dan Way, James Thomas, Andy Powell, Jonathan Evans, Jason Tovey ac Aled Brew.