Bydd y Scarlets yn teithio i Dde Ffrainc ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghystadleuaeth newydd Pencampwriaeth Cwpan Ewrop.
Bydd yna her anferth yn eu gwynebu wrth iddynt chwarae yn erbyn Toulon, y pencampwyr presennol a thîm sy’n llawn o sêr rhyngwladol. Gobaith y Scarlets yw dechrau’r gystadleuaeth yn dda a rhoi perfformiad y bydd y rhanbarth a’r cefnogwyr yn falch ohono.
Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a gollodd i Munster y penwythnos diwethaf. Mae yna un newid ymhlith yr olwyr gyda Michael Tagicakibau yn dod fewn i’r canol yn lle Gareth Owen sydd wedi ei anafu. Mae’r tri newid arall yn y rheng flaen gyda Rob Evans, Emyr Phillips a Samson Lee yn disodli Phil John, Kirby Myhill a Rhodri Jones.
‘‘Yr wyf yn edrych ymlaen at y gêm. Yr ydym yn ymwybodol bod ganddynt dîm cryf a disglair, ac fe fydd yn rhaid i ni fod yn dîm o sêr ar y dydd. Bydd yn rhaid i ni chwarae fel tîm a thorri allan ein camgymeriadau. Bydd yn rhaid i ni chwarae’r gêm gyda chynllun clir o beth i’w wneud gyda’r bêl pan fydd yn ein meddiant. Os na wnawn dacluso dipyn ar ein gêm gallwn fod mewn trafferth,’’ meddai Pivac.
Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 am 3:15 y.h.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Michael Tagicakibau, Scott Williams (Capten), Kristian Phillips, Rhys Priestland a Aled Davies.
Blaenwyr – Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Rory Pitman.
Eilyddion – Kirby Myhill, Phil John, Rhodri Jones, George Earle, James Davies, Rhodri Williams, Steven Shingler a Jordan Williams.