Caeredin 24 – 10 Y Dreigiau

Wedi colli yn y ddarbi Gymreig yn erbyn y Scarlets wythnos diwethaf, doedd dim gwell lwc i’r Dreigiau yn Yr Alban yr wythnos hon.

Sgoriodd asgellwyr Caeredin, Tim Visser a Dougie Fife, gais yr un yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Er nad oedd y Dreigiau ar eu gorau, roedden nhw ar y blaen ar un pwynt ar ôl i Matthew Pewtner groesi am gais.

Er hynny, yr Albanwyr oedd y tîm gorau o bell ffordd yn yr ail hanner, ac mae’r fuddugoliaeth – eu pedwerydd yn olynol yn erbyn y Dreigiau – yn eu codi uwchben y tîm o Gasnewydd yn y tabl i’r wythfed safle.