Casnewydd 3 – 1 Caer Efrog

Er mynd ar ei hôl hi ym munudau cyntaf y gêm, daeth Casnewydd yn ôl i gipio buddugoliaeth werthfawr ar Rodney Parade heddiw.

Fe gawsom nhw help llaw gan yr ymwelwyr wrth i Russell Penn weld cerdyn coch ym munud cyntaf yr ail hanner i roi mantais mawr i’r tîm cartref.

Cyn hynny, roedd ergyd Diego De Girolamo wedi rhoi’r oruchafiaeth i Efrog wedi dim ond 7 munud o’r gêm.

Cwta bum munud wedi i Penn adael y cae, roedd Casnewydd yn gyfartal diolch i ergyd isel Andrew Hughes, cyn i Chris Zebroski roi’r tîm cartref ar y blaen wedi 65 munud.

Seliwyd y fuddugoliaeth gyda deunaw munud yn weddill diolch i foli wych o bellter gan yr amddiffynwr canol, Darren Jones.

Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i 13eg yn y tabl.