Wrecsam 0 – 1 Grimsby
Roedd Wrecsam yn dathlu 150 o flynyddoedd o fodolaeth y clwb heddiw, gyda thros 8000 o gefnogwyr yn ymuno â’r parti ar y Cae Ras.
Er hynny, doedd dim dathlu buddugoliaeth i fod ar ddiwedd y 90 munud wrth i Grimsby Town ddod a sbwylio’r parti.
Roedd un gôl yn ddigon i’r ymwelwyr, a daeth honno’n fuan yn y gêm o gic o’r smotyn wedi trosedd ar Aswad Thomas gan Mark Carrington – Lenell John-Lewis yn rhwydo o’r smotyn.
Doedd dim llawer o siap ar Wrecsam i fod yn onest, ac er iddynt wella rhywfaint yn ystod yr ail hanner, diflannodd unrhyw obaith o ganlyniad wrth i Louis Moult gael ei yrru o’r maes am drosedd ar Craig Disley.
“O gael torf ardderchog, roedd yn siomedig iawn ein bod wedi perfformio yn y modd y gwnaethon ni” meddai rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin wedi’r gêm.
“Roedden ni’n well wedi’r hanner tan y cerdyn coch. Nes i ddim gweld y drosedd, ond mae’n debyg bod y gosb am stamp, ac os felly fedrwn ni ddim cwyno”