Roedd hyfforddr Cymru, Osian Roberts, yn fodlon gyda pherfformiad ac ysbryd y tîm yn eu gêm ragbrofol yn erbyn Bosni-Herzegovina neithiwr.

Wrth siarad â Golwg360 yn dilyn y gêm dywedodd Roberts for Cymru wedi sicrhau canlyniad da yn erbyn ‘un o’r mawrion’, ac o ganlyniad wedi gosod safon i’w hunain.

Dywedodd fod ei dîm wedi gwrthsefyll pwysau yn ystod y gêm ond hefyd wedi creu cyfleoedd ac ennill parch eu gwrthwynebwyr.

“Roedden ni ar adegau o’r gêm dan bwysau” meddai Roberts.

“Mi wnaethon ni groesawu fo ac amddiffyn yn ddewr a dangosfod yna gymeriad a dewrder ac ysbryd yn y garfan yma.”

“Ar adegau mi wnaethon ni chwarae yn ymosodol dda a chreu cyfleoedd da ond yn anffodus gafon ni ddim o’r gôl yna.”

Hyderus

Yn ôl Roberts mae hyder y garfan yn uchel ar gyfer y gêm yn erbyn Cyprus nos Lun.

“Be mae’r chwaraewyr yn dweud yn y stafell newid ydy ‘dyma bar, dyma’r safon da ni wedi gosod i’n hunain, allwn ni ddim disgyn o dan y safon yna rŵan’.”

Cyfweliad llawn: