George North
Cododd Northampton nôl i frig Uwch Gynghrair Aviva Lloegr gyda buddugoliaeth o 12-19 dros Wyddelod Llundain.
Bwydodd George North y canolwr Luther Burrell am unig gais y gêm, gan olygu fod ei dîm ef yn fuddugol dros griw Andy Fenby a Darren Allinson.
Sicrhaodd Caerloyw fuddugoliaeth gyfforddus dros Gaerlŷr o 33-16 wrth i James Hook a Richard Hibbard ddechrau unwaith eto i’r tîm cartref buddugol, gyda Tom Isaacs ar y fainc.
Ciciodd Owen Williams, oedd yn ôl yn chwarae fel maswr i Gaerlŷr, drosiad a thair cic gosb ond colli am y drydedd gêm yn olynol oedd hanes ei dîm ef.
Ni lwyddodd Cymry Llundain i sgorio pwynt wrth i Harlequins roi cweir o 52-0 iddyn nhw, gyda Nic Reynolds a James Down yn dechrau a Rob Lewis ar y fainc.
Dechreuodd Marc Jones a Jonathan Mills ym mhac Salem gydag Eifion Lewis-Roberts yn dod oddi ar y fainc, wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 25-14 dros dîm Wasps John Yapp a Bradley Davies.
Collodd Phil Dollman a Tom James yn annisgwyl gyda Chaerwysg wrth i Newcastle ennill am y tro cyntaf mewn 21 gêm, gyda buddugoliaeth o 29-24.
Yn y frwydr nos Wener ar frig y tabl roedd Caerfaddon yn fuddugol dros Saracens, gyda Gavin Henson a Paul James yn dechrau a Dominic Day ar y fainc, ac yn trechu tîm Rhys Gill 21-11.
Draw yn Ffrainc, Mike Phillips oedd yr unig Gymro o blith criw Racing Metro i chwarae dros y penwythnos, gan ddod oddi ar y fainc wrth i’r tîm drechu Brive 46-32 i godi i drydydd yn y tabl.
Chwaraeodd Jonathan Davies gêm lawn i Clermont, ond doedd hi ddim yn un i’w chofio iddo wrth iddyn nhw ymweld â Bordeaux a chael eu chwalu 51-21, canlyniad sydd yn golygu’u bod nhw’n llithro o frig y Top 14.
Seren yr wythnos – George North. Help llaw i’w dîm wrth sgorio’r cais buddugol aeth â nhw nôl i’r brig.
Siom yr wythnos – Jonathan Davies. Clermont wedi dechrau’r tymor yn dda, felly sioc fawr oedd y gweir i Bordeaux.