Bydd Bale yn ymuno â'r garfan heddiw (llun: CBDC/Propaganda)
Y newyddion gorau i Gymru dros y penwythnos mae’n siŵr oedd na chafodd yr un o’r chwaraewyr anafiadau newydd, wrth i’r garfan genedlaethol gyfarfod heddiw.

Roedd rhaid aros tan nos Sul i wylio Gareth Bale wrthi gyda Real Madrid yn erbyn Athletic Bilbao, ond yn ffodus i’r Cymry oedd yn gwylio tu ôl i gefn y soffa fe ddaeth Bale drwyddi’n ddianaf.

Llwyddodd i greu dwy gôl i Ronaldo, hyd yn oed, wrth i’r gŵr o Bortiwgal sgorio hat-tric a Real yn ennill yn gyfforddus 5-0.

Fe chwaraeodd Emyr Huws a Jonathan Williams i’w clybiau yn y Bencampwriaeth dros y penwythnos hefyd, er bod marc cwestiwn wedi bod yn gynharach yn yr wythnos ynglŷn â’u ffitrwydd nhw.

Ond doedd dim golwg o Lee Evans yn nhîm Wolves, gydag amheuon mawr a fydd e’n holliach i ymuno â’r garfan, a Sam Ricketts hefyd ddim yn y tîm.

Wedi dweud hynny ni wnaeth Dave Edwards, a ddaeth i mewn yn lle Evans, niwed i’w achos gyda Chymru wrth benio gôl gyntaf Wolves.

Yn yr Uwch Gynghrair doedd James Collins fodd bynnag ddim yng ngharfan West Ham o gwbl, felly cawn aros i weld beth yw hanes y gŵr fu’n absennol o’r garfan ddiwethaf ag anaf hefyd.

Roedd tri Chymro yn amddiffyn Abertawe wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Newcastle (yn ogystal â Paul Dummett i’r gwrthwynebwyr), ond ar hyn o bryd dim ond Ashley Williams a Neil Taylor fydd yn ymuno â charfan Cymru, gydag Ashley Richards heb ei enwi.

Fe chwaraeodd James Chester a Joe Ledley 90 munud yr un wrth i Hull drechu Crystal Palace 2-0, tra bod Andy King wedi treulio’r gêm gyfan ar y fainc yn gwylio Caerlŷr yn cael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Burnley.

O leiaf cafodd King le ar y fainc – doedd yr un peth ddim yn wir am Tom Lawrence i Gaerlŷr, na Ben Davies i Spurs chwaith.

Nôl yn y Bencampwriaeth a cholli 3-1 oedd hanes Reading i Brentford, gyda Chris Gunter yn chwarae gêm lawn, Hal Robson-Kanu’n cael hanner, a Jake Taylor yn gorfod bodloni â lle ar y fainc.

Chwaraeodd Rhoys Wiggins a Dave Cotterill gemau llawn wrth i Charlton a Birmingham rannu’r pwyntiau mewn gêm orffennodd yn 1-1.

Daeth George Williams oddi ar y fainc i Fulham wrth iddyn nhw golli i Middlesbrough, tra bod Joel Lynch a Craig Davies, sydd ddim wedi’u henwi yng ngharfan Cymru, wedi cael gemau llawn i’w clybiau nhw.

Ar y fainc oedd Wayne Hennessey i Crystal Palace eto wrth gwrs, ond fe chwaraeodd golwyr eraill Cymru Kyle Letheren (Dundee) ac Owain Fôn Williams (Tranmere) gemau llawn i’w clybiau nhw dros y penwythnos.

Seren yr wythnos – Gareth Bale. Creu dwy gôl, ond y prif beth yw ei fod e’n ymuno â thîm Cymru heddiw yn ffit ac yn iach.

Siom yr wythnos – Ben Davies. Ddim hyd yn oed ar y fainc i Spurs ddoe, a dal heb ddechrau gêm iddyn nhw yn yr Uwch Gynghrair.