Zebre 14–15 Gweilch

Mae’r Gweilch yn aros ar frig y Guinness Pro12 wedi buddugoliaeth glos yn erbyn Zebre yn y Stadio XXV Aprile nos Wener.

Cicio cywir yr eilydd faswr, Sam Davies, oedd yn gyfrifol wrth i’r Cymry ennill o un pwynt yn Parma.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gweilch yn addawol ond yr Eidalwyr a sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm yn erbyn llif y chwarae wedi pedwar munud pan groesodd Giulio Bisegni am gais yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

I rwbio’r halen yn y briw i’r Gweilch, fe anafwyd Dan Biggar yn yr un symudiad a bu rhaid i’r maswr adael y cae gyda Sam Davies yn dod ymlaen yn ei le.

Caeodd Davies y bwlch i ddau bwynt gyda chic gosb cyn iddo yntau a Gonzalo Garcia gyfnewid tri phwynt yr un cyn yr egwyl, 8-6 y sgôr ar hanner amser.

Ail Hanner

Cyfnewidiodd y cicwyr gic gosb yr un yn chwarter awr cyntaf yr hanner cyntaf hefyd wrth i’r gêm barhau’n agos.

Yna, gyda Giulio Tonilatti yn y gell gosb i Zebre fe roddodd Davies y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda’i bedwaredd cic lwyddiannus.

Yn ôl eto y daeth Zebre serch hynny gad chic arall gan Garcia ond llwyddodd Y Gweilch i osod sylfaen yn y munudau olaf ar gyfer un gic arall i Davies, tri phwynt a oedd yn ddigon i ennill y gêm, 14-15.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch ar frig y Pro12 gyda 22 pwynt wedi pump gêm.

.

Zebre

Cais: Giulio Bisegni 4’

Ciciau Cosb: Gonzalo Garcia 23’, 44’, 70’

Cerdyn Melyn: Giulio Tonilatti 56’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Sam Davies 13’, 37’, 53’, 67, 73’