Mae nawr yn amser delfrydol i Gaerdydd herio Blackpool, yn ôl un o’r rheolwyr dros dro Scott Young.

Dywedodd Young ei fod yn well ganddo deithio i Bloomfield Road heno yn hytrach na nes ymlaen yn y tymor, pan fyddai cae’r gwrthwynebwyr yn debygol o fod o safon is.

Mae’n debygol mai hon fydd gêm olaf Young a Danny Gabbidon wrth y llyw gyda Chaerdydd, wrth i’r clwb baratoi i allu penodi Russell Slade fel rheolwr.

Fe deithiodd Slade gyda’r tîm ar gyfer y gêm heno, ac mae wedi bod yn rhoi cyngor i Young a Gabbidon dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â’r tîm – er bod y ddau ddyn dros dro’n mynnu mai nhw sydd wedi bod â’r gair olaf.

Mae Caerdydd wrthi’n ceisio datrys problemau cyfreithiol cyn penodi Slade, ar ôl iddo ymddiswyddo o Leyton Orient am nad oedden nhw wedi caniatáu iddo siarad â Chaerdydd.

Dyw Caerdydd heb golli’r un o’u tair gêm ddiwethaf yn y gynghrair ac maen nhw’n 14eg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, pum pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.

Mae Blackpool ar waelod y tabl fodd bynnag, heb ennill yn y gynghrair drwy’r tymor, ac ni fydd eu golwr Joe Lewis yn cael chwarae heno gan ei fod ar fenthyg o Gaerdydd,