Mae’r Gweilch wedi teithio i Zebre heb yr asgellwr Eli Walker sydd wedi anafu ei ysgwydd.
Hefyd bydd y blaen asgellwr Justin Tipuric yn colli gêm heno ar ôl cael ei daro yn anwybodol yn y fuddugoliaeth o 19-24 yn erbyn Munster.
Bydd Alun Wyn Jones yn dechrau ar y fainc a bydd y clo Lloyd Peers yn un o’r chwech newid fydd yn dechrau’r gêm. Martin Roberts fydd yn dechrau fel mewnwr yn lle Rhys Webb. Bydd Jonathan Spratt yn dychwelyd i’r canol yn lle Andrew Bishop ac yn arwain y tîm. Hanno Dirksen fydd yn cymryd lle Walker ar yr asgell.
Morgan Allen fydd yr wythwr yn lle Dan Baker a bydd James King yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn Thormond Park ar ôl yr anaf i Tipuric.
‘’Bydd y gêm hon yn brawf arall i ni ac yn gyfle i weld y cymeriad sydd yn y garfan. Fe gawsom ganlyniad da yn erbyn Munster ac yr oedd agwedd y bechgyn yn ardderchog ond nid oedd popeth yn dda,’’ meddai Steve Tandy, Prif hyfforddwr y Gweilch.
‘’Ar ôl y gêm fe wnaethom sylweddoli y gallen fod wedi ei cholli oherwydd diffyg disgyblaeth. Bydd bechgyn Zebre yn teimlo’n dda ar ôl ei buddugoliaeth yn erbyn Ulster ac yr ydym yn disgwyl gêm gorfforol galed,’’ ychwanegodd Tandy.
Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7:35.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Jonathan Spratt (Capten), Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Dan Biggar a Martin Roberts.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Rynier Bernardo, Joe Bearman, Morgan Allen a James King.
Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Cai Griffiths, Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Rhys Webb, Sam Davies a Andrew Bishop.