Munster 14–19 Gweilch
Dychwelodd y Gweilch i frig y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Munster ar Barc Thomond nos Sadwrn.
Roedd Glasgow wedi treulio noson ar frig y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth dros Connacht nos Wener, ond dychwelodd y Cymry i’r brig nos Sadwrn wrth i gais Jeff Hassler a chicio cywir Dan Biggar sicrhau buddugoliaeth iddynt yn Limerick.
Roedd hi’n argoeli’n gêm agored yn y chwarter awr agoriadol wrth i ddau asgellwr groesi am geisiau cynnar.
Sgoriodd Gerhard can den Heever bwyntiau cyntaf Munster cyn i Jeff Hassler groesi i’r Gweilch, gyda’r tîm o Gymru yn mynd ar y blaen o ddau bwynt gyda throsiad Dan Biggar.
Gêm glos iawn oedd hi wedyn serch hynny gyda dim ond cic gosb yr un o draed Biggar ac Ian Keatley i’w ychwanegu i’r sgôr cyn yr egwyl, 8-10 o blaid yr ymwelwyr wedi deugain munud.
Aeth Munster ar y blaen bron yn syth o’r ail ddechrau gyda thri phwynt arall o droed Keatley cyn i glo’r Gweilch, Rynier Bernardo, dreulio deg munud yn y gell gosb.
Cyfnewidiodd Biggar a Keatley gic gosb yr un tra yr oedd yno felly dim ond pwynt oedd ynddi pan ddychwelodd i’r cae, 14-13 gyda chwarter y gêm i fynd.
A’r ymwelwyr a gafodd y gorau o’r ugain munud olaf wrth i Biggar lwyddo ddwywaith eto i sicrhau buddugoliaeth o bum pwynt, 14-19 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch yn ôl dros Glasgow i frig y tabl. Mae gan y ddau dîm bedair buddugoliaeth a deunaw pwynt wedi pedair gêm ond mae’r Cymry’n codi uwchlaw’r Albanwyr ar wahaniaeth pwyntiau.
.
Munster
Cais: Gerhard can den Heever 11’
Ciciau Cosb: Ian Keatley 40’, 41’, 56
.
Gweilch
Cais: Jeff Hassler 15’
Trosiad: Dan Biggar 17’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 32’, 53’, 65’, 69’
Cerdyn Melyn: Rynier Bernardo 47’