Wrecsam 3–0 Eastleigh
Roedd tair gôl a thri phwynt i Wrecsam yn y Gyngres brynhawn Sadwrn wrth i Eastleigh ymweld â’r Cae Ras.
Rhoddodd goliau hanner cyntaf Elliott Durrell a Wes York fantais gyfforddus i’r Dreigiau ar hanner amser cyn i Andy Bishop goroni’r fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod.
Deuddeg munud yn unig oedd ar y cloc pan orffennodd Durrell yn daclus i agor y sgorio ac roedd hi’n ddwy wedi llai na hanner awr wedi i York wyro croesiad Louis Moult i gefn y rhwyd.
Dyfalbarhad Connor Jennings oedd yn gyfrifol am greu’r drydedd i Bishop yn yr ail hanner ac roedd y pwyntiau’n ddiogel gydag ugain munud i fynd.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i’r chweched safle yn nhabl y Gyngres, chwe phwynt y tu ôl i Barnet ar y brig.
.
Wrecsam
Tîm: Bachmann, Ashton, Smith, Hudson, Durrell, Keates, Clarke, Carrington, Jennings (Holman 75′), York (Hunt 80′), Moult (Bishop 70′)
Goliau: Durrell 12’, York 27’, Bishop 71’
.
Eastleigh
Tîm: Flitney, Reid, Green, Spence, Collins, Reason, Evans, Constable (McAllister 67′), Fleetwood, Midson, Strevens (Stanley 67′)
Cerdyn Melyn: Strevens 44’
.
Torf: 2,692