Casnewydd 4–1 Wimbledon
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth gyfforddus wrth i Wimbledon ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Ismail Yakubu’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Joe Pigott (2) ac Aaron O’Connor gwblhau’r sgorio yn yr ail hanner. Adebayo Akinfenwa sgoriodd unig gôl yr ymwelwyr.
Peniodd Yakubu’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Robbie Willmott wedi deunaw munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Rhwydodd Pigott ddwywaith yn ugain munud cyntaf yr ail hanner, y gyntaf wedi i gynnig gwreiddiol Chris Zebroski gael ei arbed, a’r ail gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi.
Tynnodd Akinfenwa un yn ôl i’r ymwelwyr cyn i O’Connor gwblhau’r sgorio yn yr amser a ganiateir am anafiadau yn dilyn gwaith creu Yan Klukowski.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r pymthegfed safle yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jones, Tancock, Yakubu, Minshull (Klukowski 45′), Byrne, Sandell, Chapman (Crow 97′), Willmott, Zebroski (O’Connor 71′), Pigott
Goliau: Yakubu 18’, Pigott 46’, 65’, O’Connor 90’
Cardiau Melyn: Sandell 24’, Willmott 54’, Pigott 87’
.
Wimbledon
Tîm: Shea, Bennett, Harrison (Kennedy 57′), Barrett, Fuller, Rigg (Sainte-Luce 74′), Francomb (Azeez 58′), Bulman, Moore, Tubbs, Akinfenwa
Gôl: Akinfenwa 70’
Cardiau Melyn: Barrett 8’, Bennett 73’, Akinfenwa 90’
.
Torf: 2,804