Caerdydd 2–1 Sheffield Wednesday

Sgoriodd Sean Morrison yn y ddau ben wrth i Gaerdydd drechu Sheffield Wednesday yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd yr amddiffynnwr canol Gaerdydd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf cyn troi’r bêl i’w rwyd ei hun yn gynnar yn yr ail gyfnod. Yr Adar Gleision gipiodd y pwyntiau i gyd serch hynny diolch i gôl Anthony Pilkington ar yr awr.

Yr ymwelwyr o Sheffield a gafodd y dechrau gorau heb os a bu rhaid i Fabio Da Silva fod yn effro i glirio cynnig cynnar Stevie May oddi ar y llinell.

Caerdydd serch hynny aeth ar y blaen pan beniodd Morrison yn gadarn ac yn gywir heibio i Keiren Westwood o gic rydd Peter Wittingham ychydig funudau cyn yr egwyl.

Chris Maguire a gyflenwodd y croesiad ar gyfer ail Morrison toc wedi’r egwyl ond yn anffodus i’r dorf gartref, i’w rwyd ei hun y sgoriodd y tro hwn.

Ond wnaeth Caerdydd ddim digalonni ac roeddynt yn ôl ar y blaen ar yr awr diolch i gôl daclus Pilkington. Rhwydodd yn gelfydd ar y foli wedi i Kenwyne Jones benio’r bêl i’w lwybr.

Yr Adar Gleision oedd y tîm gorau erbyn hyn gyda Federico Macheda’n creu argraff oddi ar y fainc, ond roedd yr un gôl o fantais yn ddigon i gipio’r tri phwynt i Gaerdydd.

Mae’r canlyniad yn eu codi i’r pymthegfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Ecuele Manga, Brayford, Fabio (Ralls 85′), Morrison, Daehli, Whittingham, Noone (Morrison 62′), Gunnarsson, Pilkington, Jones (Macheda 65′)

Goliau: Morrison 39’, Pilkington 61’

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Westwood, Loovens, Mattock, Buxton, Palmer, Semedo (Madine 75′), Coke (Drenthe 66′), Maghoma, Maguire (Hope 66′), May, Nuhiu

Gôl: Morrison [g.e.h.] 51’

Cardiau Melyn: Mattock 38’, Loovens 84’

.

Torf: 20,901