Sunderland 0–0 Abertawe

Cafodd Abertawe bwynt yn erbyn Sunderland yn y Stadiwm of Light brynhawn Sadwrn er iddynt orffen y gêm gyda deg dyn.

Derbyniodd Angel Rangel gerdyn coch i’r Elyrch ddeg munud o ddiwedd y naw deg ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael i gymryd pwynt o gêm ddi sgôr ddiflas.

Ychydig iawn oedd rhwng y ddau dîm mewn hanner cyntaf gwael ond cafwyd ychydig mwy o gyffro yn yr ail hanner.

Dylai blaenwr Sunderland, Connor Wickham, fod wedi rhoi ei dîm ar y blaen chwarter awr o’r diwedd ond peniodd groesiad Sebastian Larsson dros y trawst.

Roedd Rangel eisoes wedi derbyn un cerdyn melyn ar yr awr felly coch oedd yn ei aros wedi iddo gael ei gosbi am drosedd ar Will Buckley ddeg munud o’r diwedd.

Cae a chael oedd hi i ddeg dyn yr Elyrch wedi hynny wrth i Sunderland bwyso ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael i gasglu eu pwynt cyntaf mewn tair gêm.

Mae’r canlyniad yn eu codi yn ôl i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Sunderland

Tîm: Mannone, O’Shea, Jones, Vergini, van Aanholt, Cattermole, Johnson (Álvarez 66′), Rodwell (Jordi Gómez 58′), Buckley, Larsson, Wickham (Fletcher 78′)

Cardiau Melyn: Cattermole 44’, Jones 75’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Williams, Taylor, Fernández, Rangel, Sigurdsson (Richards 82′), Shelvey, Routledge, Dyer (Montero 66′), Ki Sung-yueng, Gomis (Bony 73′)

Cardiau Melyn: Williams 50’, Rangel 60’, 81’

Cerdyn Coch: Rangel 81’

.

Torf: 41,325