Leinster 37–23 Gleision Caerdydd
Leinster oedd yn fuddugol wrth i’r Gleision ymweld â’r RDS yn y Guinness Pro12 nos Wener, ond dim ond wedi i’r Cymry roi braw iddynt yn yr ail hanner.
Roedd y Gwyddelod yn gyfforddus ar y blaen ar yr awr ond rhoddodd ceisiau Cory Allen a Sam Warburton yr ymwelwyr o Gymru yn ôl yn y gêm. Daliodd Leinster eu gafael ar y fuddugoliaeth serch hynny wrth i’r Gleision ddychwelyd adref yn waglaw.
Hanner Cyntaf
Cyfartal oedd hi wedi hanner awr o chwarae wrth i’r ddau dîm lwyddo gyda dwy gic gosb yr un.
Yna, gyda dim ond munud i fynd tan hanner amser fe groesodd Rhys Ruddock, mab cyn reolwr Cymru, Mike, am gais cyntaf y gêm.
Rhoddodd trosiad Ian Madigan saith pwynt rhwng y ddau dîm cyn i Rhys Patchell gau’r bwlch hwnnw i bedwar gyda chic olaf yr hanner.
Ail Hanner
Roedd Leinster yn edrych yn gyfforddus wedi chwarter awr o’r ail hanner yn dilyn cais yr un i Luke McGrath a Gordon D’Arcy ynghyd â dau drosiad o droed Madigan.
27-9 y sgôr felly gyda chwarter y gêm i fynd ond cafwyd diweddglo cyffrous diolch i ddau gais cyflym gan y Gleision.
Croesodd Allen yn y gornel dde ar ôl dilyn ei gic ddeallus ei hun ac fe gwblhaodd Warburton symudiad taclus i gau’r bwlch ymhellach.
Dim ond pedwar pwynt oedd ynddi felly gyda deg munud i fynd ond gorffennodd y Gwyddelod yn gryf gyda chais arall i McGrath a phum pwynt o droed Madigan.
Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn nawfed yn nhabl y Pro12 wedi pedair gêm.
.
Leinster
Ceisiau: Rhys Ruddock 39’, Luke McGrath 48’, 80’, Gordon D’Arcy 53’
Trosiadau: Ian Madigan 39’, 48’, 53’, 80’
Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 5’, Ian Madigan 9’, 73’
.
Gleision
Ceisiau: Cory Allen 64’, Sam Warburton 67’
Trosiadau: Rhys Patchell 64’, 67’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 21’, 30’, 40’