Caeredin 20–20 Scarlets

Bu rhaid i’r Scarlets fodloni ar gêm gyfartal yn y Guinness Pro12 nos Wener er iddynt fod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm, a hynny am yr eildro eisoes y tymor hwn.

Fe gollodd Bois y Sosban eu gafael ar fuddugoliaeth gartref yn erbyn Ulster yng ngêm gyntaf y tymor, a dyna’n uion a ddigwyddodd yn Murrayfield yr wythnos hon wrth i Gaeredin daro nôl i rannu’r pwyntiau.

Hanner Cyntaf

37 eiliad yn unig oedd ar y cloc pan blymiodd Harry Robinson ar gic Gareth Owen i dirio’r cais agoriadol, 0-7 wedi trosiad Rhys Priestland.

Cyfnewidiodd Priestland a’r maswr cartref, Tom Heathcote, gic gosb yr un wedi hynny cyn i Liam Williams groesi am ail gais y gêm. Cymerodd Aled Davies gic gosb gyflym ac roedd y cefnwr rhyngwladol wrth law i dderbyn y bêl a sgorio o dan y pyst.

Trosiad syml i Priestland felly a phedwar pwynt ar ddeg o fantais wrth i’r egwyl agosáu.

Ond yr Albanwyr a gafodd y gair olaf cyn hanner amser wrth i Tim Visser groesi yn y gornel gyda neb ar ei gyfyl, 10-17 y sgôr ar hanner amser yn dilyn trosiad Heathcote.

Ail Hanner

Yr ymwelwyr a gafodd y dechrau gorau i’r ail hanner hefyd wrth i gic gosb Priestland roi deg pwynt rhwng y ddau dîm, ond roedd yr Albanwyr yn ôl o fewn sgôr wedi deg munud o’r ail hanner wrth i Heathcote lwyddo eto.

Cafwyd ugain munud di sgôr wedi hynny cyn i Gaeredin orffen y gêm yn gryf. Gwelodd John Barclay gerdyn melyn wrth i’r pac cartref ddechrau gael y gorau o’r Cymry.

Yna o fewn munud , roedd Phil Burleigh wedi croesi yn dilyn sgarmes symudol daclus o lein bump.

Roedd y sgôr yn gyfartal wedi trosiad Heathcote ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd er i’r maswr cartref gael cyfle i’w hennill hi gyda chic olaf y gêm o’r llinell hanner.

Mae’r Scarlets yn seithfed yn nhabl y Pro12 ar ôl pedair gêm.

.

Caeredin

Ceisiau: Tim Visser 36’, Phil Burleigh 73’

Trosiadau: Tom Heathcote 36’, 73’

Ciciau Cosb: Tom Heathcote 9’, 51’

Cerdyn Melyn: Cornell Du Preez 16′

.

Scarlets

Ceisiau: Harry Robinson 1’, Liam williams 32’

Trosiadau: Rhys Priestland 2’, 32’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 12’, 45’

Cerdyn Melyn: John Barclay 73’