Fe fydd y capten Lee Byrne, Ashley Smith a Jason Tovey yn dychwelyd i’r tîm fydd yn dechrau i’r Dreigiau yn erbyn Benetton Treviso yng nghystadleuaeth Guinness Pro 12 brynhawn Sul am 16:05.

Bydd y canolwr Ashley Smith yn dychwelyd ar ôl dioddef anaf i’w droed fis Mawrth yn erbyn Zebre.  Daw Tovey a Byrne nôl i’r tîm ar ôl dioddef anafiadau yn erbyn y Gweilch yn gynharach yn y tymor.

‘‘Mae hi wedi bod yn gyfnod rhwystredig, ond bellach yr wyf yn edrych ymlaen at y gêm ddydd Sul ac mae’n rhaid i mi gymryd fy nghyfle i sicrhau fy lle yn y tîm.  Fe wnaeth Ben John yn dda yn erbyn Glasgow a gobeithio y gallai gyfuno gyda fi i greu partneriaeth dda,’’ meddai Ashley Smith.

Mae’r Cyfarwyddwr Rygbi, Lyn Jones wedi gwneud wyth newid i’r tîm a wynebodd Glasgow Warriors y penwythnos diwethaf.  Daw Byrne nôl fel cefnwr gyda’r chwaraewyr rhyngwladol Tom Prydie a Hallam Amos ar yr esgyll.  Bydd Ben John sydd ar fenthyg o’r Gweilch yn y canol gyda Ashley Smith, Jason Tovey fydd y mewnwr gyda Jonathan Davies fel mewnwr.

Mae dau newid yn y rheng flaen.  Bydd Boris Stankovich yn ymuno a’r bachwr Elliot Dee a’r prop Dan Way.  Mae’r ddau glo Cory Hill a Rynard Landman yn cadw eu lle.  Mae yna un newid yn y rheng ôl gyda Andy Powell yn dechrau fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll yn lle Lewis Evans fydd yn gorfod bodloni ar le ar y fainc.  Taulupe Faletau fydd yr wythwr gyda Nic Cudd fel blaenasgellwr ochr agored.

Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C am bedwar yr hwyr.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Lee Byrne (Capten), Tom Prydie, Ben John , Ashley Smith, Hallam Amos, Jason Tovey a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Boris Stankovich, Elliot Dee, Dan Way, Cory Hill, Rynard Landman, Andy Powell, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – T. Rhys Thomas, Hugh Gustafson, Lloyd Fairbrother, James Thomas, Lewis Evans, Luc Jones, Angus O’Brien a Aled Brew.