Mae’r Gweilch yn ddiguro’r tymor hwn ac wedi gwneud tri newid ar gyfer y daith i Munster yn y Pro 12 ddydd Sul.

Daw Eli Walker i’r tîm ar yr asgell dde yn lle Hanno Dirksen a daw Joe Bearman fewn yn lle James King yn y rheng ôl.  Bydd Andrew Bishop yn dechrau yn y canol yn lle Jonathan Spratt sy’n dioddef o anaf i’w ben-glin.

Tiriodd y Gweilch naw cais wrth drechu Caeredin 62-13 y penwythnos diwethaf, gyda Munster yn sgorio pum cais wrth guro Zebre 31-5.

‘‘Fe fydd hon yn gêm galed.  Mae chwarae Munster ym Mharc Thomond bob amser yn anodd i unrhyw dîm.  Fe fydd yna gyfnodau anodd i’n tîm ifanc ond yr ydym felt îm hyfforddi yn bendant y byddant yn rhoi cant y cant,’’ meddai Prif Hyfforddwr y Gweilch.

Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 am 6:30pm.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Alun Wyn Jones (Capten), Rynier Bernardo, Joe Bearman, Dan Baker a Justin Tipuric.

Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Dmitri Arhip, James King, Morgan Allen, Martin Roberts, Sam Davies a Hanno Dirksen.