Ken Owens
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau heddiw y bydd Capten y rhanbarth a Chymru, Ken Owens yn derbyn llawdriniaeth ar ei wddf.

Mae Owens wedi chwarae deirgwaith dros y Scarlets y tymor hwn, sef yn erbyn Caerloyw, Ulster a Leinster.  Fe wnaeth ddioddef anaf i’w wddf wrth ymarfer ar Barc y Scarlets ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Benetton Treviso.

‘‘Mae’n drueni dros Ken yn bersonol ac i’r tîm bod yn rhaid iddo gael llawdriniaeth.  Mae Ken wedi bod yn chwarae yn dda a’r flaenoriaeth yn awr yw ei gael nôl yn ffit.  Yr ydym yn ffodus bod Emyr Phillips yn medru camu fewn i’r tîm yn syth,’’ meddai Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr y Scarlets.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Perfformiad y Scarlets, Andrew Walker mai llawdriniaeth oedd yr unig ddewis ar ôl bod yn trafod gyda’r gwahanol feddygon.  Mae’n debyg y bydd Owens allan o’r gêm am ddeuddeg wythnos.  Bydd hyn yn golygu y bydd yn colli gemau rhyngwladol Cymru yn ystod yr Hydref.