Gethin Jenkins
Mi fydd y bachwr Kristian Dacey yn gwneud ei hanner canfed ymddangosiad i’r rhanbarth ac fe fydd yr asgellwr George Watkins yn gwneud ei ymddangosiad gyntaf i’r Gleision.

Mi fydd y prop rhyngwladol Gethin Jenkins yn dychwelyd yn ôl i’r rhanbarth ar gyfer ei gêm gyntaf o’r tymor gyda Sam Warburton yn dychwelyd yn ôl i’r rheng-ôl.

‘‘Leinster yw’r pencampwyr, ac mae ganddynt ddyfnder yn eu carfan. Rydym yn edrych ymlaen at yr her i fynd i Ddulyn, rwy’n siŵr bydd y gefnogaeth yn ffyrnig yno. Rydym wedi bod yn ymarfer yn galed yn ystod yr wythnos ac yn teimlo ein bod wedi ymosod ar Ulster yn dda’r penwythnos diwethaf.

“Roedden ni wedi creu nifer o gyfleoedd yn ystod y gêm ond mae’n rhaid i ni fod yn fwy clinigol yn ystod y gêm,’’ meddai rheolwr y Gleision, Mark Hammett.

Tîm y Gleision

Olwyr – Rhys Patchell, Alex Cuthbert, Cory Allen, Dafydd Hewitt, George Watkins, Gareth Davies a Lewis Jones.

Blaenwyr – Gethin Jenkins, Kristian Dacey, Adam Jones, Jarrad Hoeata, Chris Dicomidis, Josh Turnbull, Sam Warburton a Josh Navidi (Capten).

Eilyddion – Matthew Rees, Sam Hobbs, Taufa’ao Filise, Macauley Cook, Manoa Vosawai, Tavis Knoyle, Adam Thomas a Dan Fish.