Mae Morgannwg wedi colli eu gêm bencampwriaeth ola’r tymor o 292 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire yn Stadiwm Swalec.

Cawson nhw eu bowlio allan am 152 yn eu hail fatiad wrth iddyn nhw gwrso 444 am y fuddugoliaeth ar y trydydd diwrnod.

Prif sgoriwr Morgannwg oedd Aneurin Donald gyda 59 yn ei ymddangosiad dosbarth cyntaf i Forgannwg, ond chwalu wnaeth y Cymry ar y trydydd diwrnod.

Wedi galw’n gywir, penderfynodd yr ymwelwyr fatio’n gyntaf, gan sgorio 357 i gyd allan, wrth i James Vince daro 144, wedi’i gefnogi gan Sean Ervine a sgoriodd 107.

Cipiodd Jim Allenby bedair wiced am 74 ac fe gipiodd Michael Hogan dair wiced am 60.

Yn eu batiad cyntaf, sgoriodd Morgannwg 172, ond wnaeth yr ymwelwyr ddim eu gorfodi i ganlyn ymlaen.

Yn eu hail fatiad, sgoriodd yr ymwelwyr 258-9 cyn cau eu batiad, yn dilyn 91 gan eu capten Jimmy Adams.

Seren y bowlio i Forgannwg yn ail fatiad Swydd Hampshire oedd Jim Allenby, a gipiodd 6-54 – ei ffigurau dosbarth cyntaf gorau erioed, ac fe basiodd hanner cant o wicedi y tymor hwn.

Ond wrth gwrso 444 am y fuddugoliaeth, Aneurin Donald ar ei ymddangosiad cyntaf oedd yr unig fatiwr i gyrraedd hanner cant, er i Will Bragg sgorio 22 i gyrraedd 1,000 o rediadau ar gyfer y tymor.

Cipiodd James Tomlinson chwe wiced am 52 i’r ymwelwyr er mwyn selio’r fuddugoliaeth, sy’n golygu mai Swydd Hampshire sydd wedi ennill yr ail adran.

Mae Swydd Gaerwrangon hefyd wedi cael eu dyrchafu i’r adran gyntaf y tymor nesaf, wedi iddyn nhw orffen yn ail yn y tabl.